Ôl-gerbydau Ifor Williams

Ôl-gerbydau Ifor Williams (a elwir yn Ifor Williams Trailers yn Saesneg, ac sydd yn cael ei dalfyrru i IWT yn aml) yw un o’r busnesau mwyaf sydd yn lleol i Gynwyd; yn ôl eu gwefan, nhw yw’r “gwneuthurwyr ôl-gerbydau blaenllaw yn y DU”  yn ogystal â bod y gwneuthurwyr mwyaf Prydain o ôl-gerbydau hyd at bwysau gros 3500kg.”

Ers i’r cwmni gael ei sefydlu ym 1958, maent wedi mynd ymlaen i gynhyrchu dros hanner miliwn o ôl-gerbydau dros amryw o fodeli, megis y Blwch Ceffylau (HB510XL a ddangosir), y Tipiwr a’r Ôl-gerbyd Gwastad (LT a ddangosir) sydd i’w weld isod:

PaddedImage460278FFFFFF-Flatbed-LT-LM-3hb510xl-large

 

 

 

 

 

 

tipper-large-2

Mae’r cwmni yn adnabyddus ar draws y byd am ei ôl-gerbydau safonol, maent yn ymfalchïo yn y ffaith fod “canran fawr o’u darnau yn cael eu cynhyrchu i gynlluniau’r cwmni, megis y rhan fwyaf o’r paneli corff, yr echelau a siasis (chassis).” Mae’r cynnyrch y mae’r cwmni yn ei prynu wedi’i gwneuthuro gan wneuthurwyr cymeradwy sydd yn ddarostyngedig i rheolau ansawdd llym.

Er gwaethaf eu llwyddiant, mae Ôl-gerbydau Ifor Williams wedi gallu parhau i weithredu mewn ffatri yng Nghynwyd hyd heddiw; maent hefyd yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn ardal De Sir Ddinbych.

Mae yna gilfan ar ochr Corwen y pentref, sydd yn aml yn llawn o lorïau cymalog o amryw o wledydd; mae llawer o yrrwyr yn dewis aros dros nos yma cyn symud ymlaen i ddosbarthu eu cynnyrch i Ôl-gerbydau Ifor Williams:

cynwyd17