Addysg

cynwyd12

bro dyfrdwy

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae pentref Cynwyd yn gartref i Ysgol Bro Dyfrdwy, ysgol gynradd gymunedol a chafodd ei hadnewyddu yn ddiweddar. Ysgol gymysg sydd yn dysgu plant 3-11 oed drwy’r cyfrwng Cymraeg yw hi; a elwid gynt yn Ysgol Maes Hyfryd cyn i’r ysgol gyfuno ag ysgolion cynradd eraill yn yr ardal megis Ysgol Gynradd Llandrillo. Yn yr adroddiad ysgol ddiweddaraf gan Estyn yn 2015, derbyniodd yr ysgol “Da” ar gyfer ei pherfformiad presennol yn ogystal ag am ei rhagolygon ar gyfer gwella yn y dyfodol.

Y brif athrawes dros dro yw Mrs Bethan Fell, sy’n dilyn Mrs Eirian Owain y cyn bennaeth, a ddechreuodd yn y rôl hon yn y flwyddyn 1988.

Gallwch gysylltu gyda’r ysgol dros y ffôn ar 01490 412 500, neu drwy yrru e-bost at y cyfeiriad ysgol.brodyfrdwy@denbighshire.gov.uk

Ar wefan Cyngor Sir Ddinbych, mae yna dudalen am Ysgol Bro Dyfrdwy, sydd ar gael yma.

Mae tair ysgol uwchradd o 15 milltir o Gynwyd; Ysgol Brynhyfryd, sydd 14 milltir o ganol y pentref, Ysgol Dinas Bran, a leolir tua 12 milltir o Ysgol Bro Dyfrdwy, ac Ysgol Godre’r Berwyn, yr ysgol uwchradd agosaf sydd 11 milltir o’r pentref.